Dyma rai syniadau ar gyfer defnydd creadigol o gasgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol …
Casgliad Ffotograffiaeth John Thomas, 1838-1905
Trigolion yr elusendai, Cerrigydrudion
Cymerwch elfen o ffotograff i greu dyluniad newydd. Yma rydym wedi chwyddo gwyneb un o’r cymeriadau yn y ffotograff, a thrwy ychydig o waith ar raglen golygu, gallwch greu dyluniad i’w ddefnyddio fel logo ar gyfer brandio a marchnata, neu i greu cynnyrch newydd …
Casgliad Geoff Charles
Cymerwch ffotograff du a gwyn fel yr un yma o John Charles yng ngêm pêl droed Yr Alban v Cymru 1954, a dewch ag ef yn fyw drwy ychwanegu lliw i greu posteri, cardiau a chardiau post ..
Trawsnewidiwch darlun i fewn i ddyluniad ar gyfer crys-t…
Defnyddiwch hiwmor i greu cynnyrch unigryw. Mae’r ffotograff yma gyda’r pennawd “In the Stocks Again…” wedi cael ei droi mewn i fat drws …
Porwch drwy ein catalog ac ewch i greu…